Wele emyn arall,—" Am siriol wyneb Duw."
Duw, dyro i'm dy siriol wedd,
Tra byddwyf 'r ochr hyn i'r bedd,
Rho nerth bob awr o'r dydd a'r nos,
I lynu wrth Grist a'i waedlyd groes.
Tyn fi fy Nuw, greadur ffôl
Ac wedi'n rhedaf ar dy ôl,
A dof i'th foli'n iach fy ngwedd,
Pan yr agorir pyrth y bedd.
Onid yw llinellau fel,—
"Ac wedi'n rhedaf ar dy ol" a
"Pan yr agorir pyrth y bedd"
yn fwy o adlais o emynau oedd ar gof nag ydynt o unrhyw ddawn emynyddol arbennig a gyfleir ganddynt?
Wele gyfieithiad o'i eiddo o'r Lladin yn 1824, sef dyddiau'r Coleg eto, ar y testun Rhufain',—
"Lle nawr y gwelir Rhufain ben y byd,
Glaswellt a choed oedd gynt yn tyfu 'nghyd,
Ac ychydig ddeadellau yn pori yn ddifraw
Ac ambell fwth yn mygu yma a thraw."
Gwell ydyw yn ei gyfieithiadau nag yn ei ddarnau gwreiddiol, am fod yr ysgolor o dan yr un iau â'r bardd, ac yn ei ddiogelu rhag cyffredinedd.
Wele un arall i'w frawd a'i chwiorydd, sef Evan, a Martha a Hannah, a gladdwyd ym mynwent eglwys Llanarth, yr hyn a rydd i ni drwy y pennawd yn anuniongyrchol oleuni ar deulu Castell-y-geifr. Yn Saesneg y mae'r llinellau,—