Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Beneath this sod one brother and two sisters lie,
Pause, visitant as thou by chance com'st by,
In innocence the three were bound by death,
And calmly to his power resigned their breath
The three one day shall be released from clay,
And praise their God in never ending day."


Wele un pennill o dri i'w Feddrod ef ei hun o dan y penawd "Fy Meddrod",

Pan bwy'n gorwedd yn y ceufedd,
Mewn tangnefedd bydd fy mhen,
Wedi anghofio fy helbulon,
Trymion gefais is y Nen.
Agor i'm gobennydd priddlyd,
Yn y gweryd rhowch yn hy,
Rosyn mwyn di-gochion ddeilion,
Gerllaw'm gruddiau llwydion i."


Wele bennill ar "Wylo trosof a'm Claddu ",—

"Nid llawer hoffwn wylo trosof yn y byd,
Nid llawer hoffwn fod i'm claddu 'nghyd,
Rhyw un neu ddau fo'n debyg i'm fy hun,
Yn teimlo'n ddwys beth bynnag deimla dyn."


Dywedwn eto mai prin y buasem yn barod i gydnabod John Davies yn fardd o addewid nac o fri. Nid oedd ganddo awen hedegog, na'r cyffyrddiad tlws a thelynegol. Yr oedd yn ormod o athronydd a dadansoddwr a dyn ffeithiau i fod yn awenyddol iawn, er y gall yr athronydd a'r bardd gwrdd yn yr un dyn. Tuedd John Davies oedd mynd i ddiwinydda a thynnu moeswersi wrth farddoni, ac felly yn methu bod yn ogleisiol