yn ei gân. Eto yr oedd yr awen yno, a'r cyffyrddiad yn un tyner mewn ambell linell, a glendid a choethder yn ddieithriad yn nodweddu'r gwaith.
Cyfansoddodd gân adnabyddus i 'Afonig Llethi' chyhoeddodd hi'n llyfryn bach hylaw yn 1868 yng Nghastell-newydd Emlyn. Nodweddir y gân gan ddysg a synnwyr a doethineb eto yn fwy na chan dlysni a cheinder, a gofalodd ddweud yn ei Ragair i'r gân mai ei amcan wrth ei chyfansoddi oedd rhoddi mynegiant i rai o hen draddodiadau y fro, a'r hyn a glywodd, ac a welodd, a'i fod wedi dewis canu fel hyn am y gallai hynny ennyn mwy o ddiddordeb yr ifanc na rhyddiaith noeth. Ac yn wir y mae sylwadau achlysurol John Davies ar waelod y ddalen yn fwy diddorol o lawer na'r gân ei hun. Dengys y nodiadau hyn ddysg eang, a chyfarwydd-deb â'r clasuron, a thebygrwydd y traddodiadau mewn mwy nag un wlad, a mwy nag un genedl. Weithiau fe ddaw gwreiddioldeb yr awdur i'r golwg, a'i hiwmor.
Diddorol ac addysgiadol odiaeth yw ei sylwadau ar waelod y ddalen ar Llethi, y Tylwyth Teg, Derwyddon, Rhegi, Ffeiriau, Dyllhuan, Barcud, Llanarth, Plas y Wern, a llawer o bethau eraill a bair i'r gân ymgolli ym mwyngloddiau dysg yr awdur. Eto y mae rhai cyffyrddiadau tlws yma a thraw drwy y gân. Wele enghreifftiau,—
"Ni chlywais i ti Llethi fod,
Erioed yn destun cân,
Na feied neb am i mi wneud,
Yr hyn na wnaed o'r blaen.