yn Gadeirydd yr Undeb yn 1873, yng Nghaernarfon, pryd y traddododd o'r gadair ei anerchiad ar "Iesu Grist yn pregethu yn esiampl i bregethwyr eraill", a phan gofiwn ni mai Hiraethog oedd Cadeirydd cyntaf yr Undeb, a 'Satan' yn destun ei anerchiad o'r gadair, gwelwn ystyr i ymffrost pobl Moreia pan dystient fod gwell testun gan eu gweinidog hwy o lawer na chan Hiraethog.
Cafodd ei Jiwbili ym Moreia yn 1877, ac efe yn 73 oed, pryd yr anrhegwyd ef gan ei eglwys, a chan ei Gyfundeb. Fel hyn yr ysgrifenna'r Parch. Simon Evans, Hebron am y rhoddion,—"Cafodd yn anrheg gan eglwys Moriah Feibl chwe—ieithiog, ac ar ôl hyny, ar adeg ei Jiwbili cafodd y Speaker's Commentary yn rhodd oddiwrth Gyfundeb Penfro' a rhyw £120 yn arian.[1] A phwy a warafun hyn o gydnabyddiaeth ac o glod i hen weithiwr da na fu ei gyflog erioed dros £60 y flwyddyn? Pwy ond y gweithiwr cydwybodol a fuasai yn dod yn ffyddlon fel efe i 'gwrdd plant' ym Moreia yn 72 oed, a phwy ond yr ieuanc ei ysbryd a fuasai yn ymyl ei 80 oed yn ymfalchio wrth ei gyfaill Clwydwenfro mewn llythyr ei fod wedi cael holl weithiau Plato yn anrheg, ac mor falch ohonynt â phlentyn o'i deganau. Cawn ef yn anturio codi capel newydd ym Moreia yn ymyl ei 80 oed ac er na chafodd weled y gwaith wedi ei orffen, gwnaeth y caledwaith i gyd ynglŷn â'r anturiaeth a gwelodd yr adeilad newydd o dan ei do. Yn flaenorol i hyn yr oedd wedi sefydlu'r eglwys yn 1830,—wedi adeiladu addoldy newydd yng
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885. op. cit.