PENNOD I
AR LAN LLETHI
LLETHI, Hafren a Thaf, dyna'r tair afon sydd yn rhannu i ni oes y Parch. John Davies yn dri chyfnod ar eu glannau y gwnaeth waith mawr ei fywyd.
Afonig fechan yw Llethi yng Ngheredigion, yn tarddu mewn bryndir noethlwm a elwir y Bannau Duon, i'r de-ddwyrain o Lanarth, gan lifo i lawr drwy'r pentref dan gysgodion y coed, nes ymgolli ohoni ym mae y môr yng Ngheinewydd. Rhy fechan ydyw i'w dangos ar y map, ond nid wrth y filltir yn unig y mae mesur afonydd, ond hefyd wrth linyn serch y rhai a fegir ar eu glannau.
Dangosodd ein gwrthrych ei serch at afon ei febyd drwy ei gân[1] iddi, fel y cawn sylwi eto yn nes ymlaen, a thrwy ysgrifennu'n aml o dan y ffugenw 'Siôn Llethi'. Ar lan yr afonig hon, mewn lle o'r enw Bwlch-yr-Helygen, y ganed John Davies, Mawrth 5, 1804, ond mewn lle o'r enw Castell-y-Geifr, yn ffinio ar yr un tir, y maged ef. Enwau ei rieni oedd David a Mary Davies—y ddau yn aelodau yn eglwys y Neuaddlwyd, a'r tad yn ddiacon yno. Bernid bod ei dad yn ŵr o ddysg uwchlaw'r cyffredin, ac yn medru Groeg a Lladin, wedi ei fwriadu i'r offeiriadaeth, ond wedi
- ↑ Llethi, Afonig Llanarth, gyda Sylwadau Achlysurol, gan John Davies, Glandŵr yn Nyfed (1868).