yn gwau, a gwrandewais yn ddiofn ar y tarannau yn rhuo draw. Cododd hyn fwyaf oddiar fy nyffyg ofn o Dduw ac wedi iddi ddechreu gwlawio, euthum i'r tŷ fel pe buasai milwr yn dychwelyd o'r gâd yn orchfygol. Felly finnai, yn llawn o wrthryfel yn erbyn ac ammharch o Dduw, yr Hwn a welir, ac a glywir, ac a deimlir ymhob man. Cefais gyfle hefyd i ddarllen llyfr o'r enw "Simpson's Plea for Religion". Yr own yn hoffi rhyw rannau o hono, eithr i'r llyfr yn gyffredinol, nid oedd gennyf fawr o barch, er ei fod yn myned tan wraidd fy annuwioldeb yn lled aml. Yn lle cymryd rhybudd oddi wrth y personau goffheir yn y llyfr hwn, rhai o ba rai a fuont feirw yn druenus mewn Deistiaeth, ac eraill adferwyd o'u cyfeiliornad, ac a barchasant, ac a ganmolasant y grefydd ag oeddynt cyn hynny wedi dirmygu, cabolwyd fi yn fwy mewn pechod, a pherchais lai ar grefydd ar ôl ei ddarllen na chyn ei ddarllen. Erbyn hyn yr oeddwn wedi cyrraedd gwybodaeth lled gyfarwydd yn y Saesneg, a mwyach ni wnelai dim o'r tro i'w ddarllen ond 'novels' a 'romances'. Byddwn awyddus i bob math o honynt. Sychedwn a hiraethwn am danynt.gymaint ag y gwnaeth Dafydd sychedu am yr Arglwydd ei Dduw. 'Arabian Nights' a aent a'm bryd yn hollol. Darllenwn brydyddiaeth o bob math gyda'g awchlymdra anarferol. Hoff oedd gennyf weithiau Pope, Dryden, a'r darnau gwaethaf o Shakespeare. Aeth Milton a'm bryd yn rhyfeddol, oherwydd fod cynnifer o bethau wedi eu creu ganddo ef ei hun. Hoffwn ddesgrifiad o erddi, ymladdfeydd rhwng ysbrydion, a lluchio at eu gilydd fynyddoedd. Hyfryd oedd gennyf gofio am y dychmygion hyn, a
Tudalen:Siôn Gymro.djvu/20
Gwedd