Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i chyfleusterau amrywiol, sef cael trwydded y Llywodraeth i bregethu. Meddylier am drwydded i fyfyriwr o'r Neuaddlwyd, lle'r oedd yr Ysbryd Glân wrth ei waith yn amlwg yn codi cenhadon i fynd at y pagan, a lle y gwelodd Dr. Phillips angen Madagascar mewn gweledigaeth, gan ei hadrodd i fyfyrwyr yr ysgol, a David Jones a Thomas Bevan yn ymateb mor arwrol iddi. Dyna enghraifft ddigon pendant o'r modd y gall llywodraeth gwlad fethu ddarllen ewyllys y llywodraeth nefol, a chlywed y wŷs oddiuchod. Chwefror y 27ain, 1822 yw dyddiad y drwydded iddo oddiwrth lywodraeth y wlad, ond wedi ei chael o'r nef dan sêl Brenin y Brenhinoedd flwyddyn os nad rhagor cyn hynny.