Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II
AR LAN HAFREN

AR lan Hafren y cawn ni'r olwg nesaf arno, yng ngholeg yr Annibynwyr a adweinir erbyn heddiw fel Coleg Aberhonddu, ond a wladychai y pryd hwnnw yn y Drefnewydd. Cyfnewidiad mawr yn ei hanes oedd y symudiad hwn:—gadael ysgol y to gwellt yn Neuaddlwyd am goleg ei enwad, a gadael bywyd ac arferion gwlad am fywyd tref ac ardal Seisnig ei harferion. Yn gyd-fyfyrwyr ag ef yno yr oedd rhai a ddaeth yn gewri meddyliol yn hanes eu henwad, sef y Parchn. David Rees, Capel Als, Llanelli; Samuel Roberts, Llanbrynmair; Samuel Bowen, Macclesfield; ac eraill. "Dywedai nad oedd yn aros yn 1877 (ar ddydd ei Jiwbili, Mawrth 28) o'i gyd-fyfyrwyr yn y Drefnewydd ond y brodyr oedrannus a pharchus S.R., S. Bowen, a J. Lloyd, gynt o Lanelwy. Y mae y ddau flaenaf yn aros eto, ond heb ofal bugeiliol ers blynyddau. Yr oedd dau eraill na wyddai eu hanes. Tebig mai un o honynt oedd y Parch. Evan Price, Middlesborough, y ceir hanes ei farwolaeth yn nyddiadur Dolgellau am 1885."[1]

Daliodd John Davies ei dir yn rhwydd gyda'r rhai hyn fel myfyriwr, a rhagorodd arnynt oll fel Ieithydd

  1. Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.