Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

medrus mewn Groeg, Lladin, Hebraeg, a Syriaeg. Ymddengys bod S.R. a John Davies yn gyfeillion mawr yn y Coleg, ac ymunodd y ddau â'i gilydd mewn anturiaeth lwyddiannus iawn yn y dref. Cychwynasant Gymdeithas o Gymrodorion' yn y Drefnewydd, a hwythau ill dau a fu'n ymgynghori â Gwallter Mechain ynglŷn â rheolau a defodau'r gymdeithas. Mewn llythyr a sgrifennodd John Davies at ei rieni (gwelwyd copi ohono gan yr Athro Morgan Lewis, Aberystwyth) dywed mai efe ac S.R. oedd Cofiaduron y gymdeithas, a bod ynadon, offeiriaid, pregethwyr, masnachwyr a myfyrwyr yn aelodau ffyddlon ohoni, a'i bod yn argoeli bod yn gymdeithas lewyrchus iawn. Yng nghanol gwersi sychion y gwahanol ieithoedd, ac afiaith John Davies ynddynt, nid anghofiodd y Gymraeg a llenyddiaeth ei genedl ei hun. Tybiwn mai'r adeg hon y mabwysiadodd efe'r enw 'Siôn Gymro' yn enw llên iddo'i hun, enw a ydoedd i ddod yn adnabyddus iawn yng nghylchgronau ei enwad ar ôl hyn am flynyddoedd. Mae'n amlwg ei fod hefyd wedi ymberffeithio yn fawr yn yr iaith Saesneg, nid yn unig drwy ei efrydiau, ond hefyd drwy ymarfer pregethu'n aml yn yr iaith honno, a hynny mewn sir yr oedd llawer o Saeson ynddi, yn ogystal ag ar ei therfynau. Bu hyn o gymorth mawr iddo drwy ei oes, a chawn ei fod yn pregethu Saesneg yn achlysurol wedi sefydlu ohono yn y weinidogaeth yn Nyfed. Nodir un peth diddorol arall ynglŷn ag ef yn y Coleg, sef ei hobi yn chwarae'r German Flute' ar rai adegau ar lan Hafren, yr hyn a brawf fod yr ysbryd cerddorol yn ogystal â'r ysbryd llenyddol wedi disgyn arno, ac y mae ffeithiau yn mynd i brofi ar ôl