Wrth atgofio y dydd ymhen 50 mlynedd dywedai: Casglfa luosog o weinidogion o'r tair Sir mor barchus ag a gyfarfu a'u gilydd ar unrhyw achlysur.[1] Yr oedd Glandŵr yn faes eithriadol a chymwys iawn i ddyn o alluoedd John Davies. Bu'r Parch. John Griffiths a'r Parch. William Griffiths, ei fab, yn gweinidogaethu yno rhyngddynt am yn agos i 70 o flynyddoedd. A dynion eithriadol iawn oedd y Griffisiaid—John Griffiths yn ysgolhaig gwych, ac yn cadw ysgol lwyddiannus iawn. yn y lle, o gymaint enwogrwydd ymron â'r Neuaddlwyd, a William Griffiths yn ysgolhaig gwych drachefn, yn emynydd rhagorol, fel y dengys rhai o'i emynau yng Nghaniedydd Cynulleidfaol yr Annibynwyr', ac yn ddyn o ddylanwad mawr.
Cyfrifid Glandŵr ar y pryd yn fath o Athen y tair Sir orllewinol, a dywed Clwydwenfro fod rhai o werin bobl y gymdogaeth yn dyfynnu Lladin ar faes y cynhaeaf. I faes fel yna y galwyd John Davies i gyflawni gwaith gweinidog. Tair anturiaeth gyntaf ei fywyd gweinidogaethol oedd: [a] Cychwyn Achos ym Moreia, Llanwinio, a sefydlwyd yno eglwys ymhen dwy flynedd wedi ei ordeiniad yng Nglandŵr. Wrth godi Moreia cododd John Davies heb yn wybod iddo'i hun ei ddinas noddfa, oblegid ymadawodd â Glandŵr o dan amgylchiadau eithriadol, fel y cawn sylwi yn nes ymlaen, gan ei gyfyngu ei hun i Foreia yn hollol ar y diwedd; [b] Yr anturiaeth arall oedd cychwyn ar ei lafur llenyddol, gwaith y cawn sylwi a manylu arno yn nes ymlaen. Nodwn yma un ffaith ddiddorol yn unig ynglŷn â'i brifwaith, sef y "Proffwydi Byrion ". Digwyddai
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.