'Cwrdd Chwarter' fod yng Nglandŵr cyn iddo ddechrau ar y gwaith hwn, pryd y galwodd John Davies sylw'r gweinidogion ac eraill at ei fwriad i gyhoeddi'r gwaith, a gofyn am eu cydymdeimlad a'u cefnogaeth hwythau ynglŷn â'r antur. Ceisiodd un fygu'r ymdrech fan honno, a dywedir mai gweinidog o'r enw y Parch. T. Skeel, Penybont oedd, a dywedodd y byddai'n well i John Davies "adael ei wallt i wynnu gyntaf", ond yn ôl cofnodiad arall, dywedir mai ei hen athro Dr. Phillips, Neuaddlwyd a'i gwrthwynebodd drwy ddweud "fod yn well i John aros yn Jericho i'w farf i dyfu'n gyntaf". Anodd credu y buasai ei hen athro yn taflu dwfr oer ar y bwriad, oddieithr gweled a theimlo ohono aruthredd y gwaith. Felly y dywedir mewn cyfeiriad at hyn, ac at farwolaeth ein gwrthrych yn un o 'Nodiadau Misol' y 'Diwygiwr'. Dyfynnwn y geiriau," Cof gennym am yr Hybarch D. Williams, Troedrhiwdalar yn adrodd yr hyn a gymerodd le flynyddoedd lawer yn ôl, pan yr oedd Mr. Davies yn ddyn cymharol ieuanc mewn cyfarfod yn rhywle yng ngwaelod Sir Aberteifi. Yr oedd Dr. Phillips o'r Neuaddlwyd yn y gadair. Amlygodd Mr. Davies y pryd hwnnw fod ganddo fwriad i ddwyn allan gyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion'. Yr oedd pawb yn gefnogol iddo ond Dr. Phillips. Gwawdiai y syniad fod hogyn ieuanc fel efe yn sôn am gymeryd mewn llaw orchwyl y buasai efe Dr. Phillips yn arswydo rhag ymgymeryd ag ef. Digalonwyd ef ar y pryd, ond aeth yn y blaen a'i efrydiaeth, ac y mae gennym felly ffrwyth o efrydiaeth galed.[1]. Mwy na thebyg mai'r olaf sydd
- ↑ Nodion Misol" y Diwygiwr, Ionawr 1885