gywir, oblegid prin y buasai Dr. Phillips yn llywyddu mewn Cwrdd Chwarter' yn Sir Benfro, ond naturiol ddigon oedd i Mr. Davies ymweled â chyfarfodydd tebyg yn ei sir enedigol. Digon yw dweud na ddigalonnodd hyn ddim ar John Davies, ac ar Fedi 23ain, 1829, ymhen dwy flynedd wedi ei ordeiniad, dechreuodd ar y gwaith, a phenderfynodd fod o wasanaeth drwy gyfrwng cylchgronau ei enwad drwy gydol ei oes.
[c] Yn ystod yr un adeg hefyd priododd Miss Phoebe Griffiths, wyres i'r Parch. John Griffiths. Wele gofnodiad diddorol ynglŷn â'r briodas,—" Gorphenaf 22ain, 1833 yn eglwys Llanfyrnach, ymunodd mewn priodas a Phoebe un o ferched y teulu hwn. Trwy garedigrwydd y Rector, y Parch. J. Timothy Lewis gwelais y cofrestriad, a chaf ef yno yn dodi ei enw J. G. Davies— y G yn debyg am George,—enw morwynol ei fam. tystion oeddynt ei dad yn nghyfraith Mr. J. D. Griffiths, ei frawd yn nghyfraith Mr. James Davies, Rhydygath, a'i gyfaill mynwesol a ffyddlawn Mr. David James, Pantygafel—taid y presenol breswylydd E. H. James, Ysw., Ynad Heddwch."[1]
Y Ganed iddynt bedwar o blant, dwy ferch o'r enw Mary ac Elizabeth, a dau fab o'r enw David a John.
Bu Mrs. Davies farw wedi un mlynedd ar ddeg o fywyd priodasol yn Llwynteg, lle'r aeth John Davies i letya ar ei sefydliad yng Nglandŵr. Disgrifir hi gan yr ardalwyr fel "dynes hawddgar, siaradus, garedig, yn hoffi byw yn dda, a gwisgo'n dda.[2] Bu Mary