farw yn 26 oed, wedi bod am beth amser mewn siop yn Hirwaun, cyn priodi ohoni ag un Capt. Jones, Clarissa, Aberaeron. Bu Elizabeth farw yn 19 oed, wedi derbyn ohoni ei haddysg elfennol gwrs pellach yng Nghaerfyrddin ac yn Aberteifi. Bu Dafydd farw drwy i garreg syrthio o'r clawdd ar ei ben yn 5 oed. Prentisiwyd John y mab i fod yn Ddilledydd mewn siop yn Narberth, wedi bod ohono yntau yn ychwanegol at ei addysg elfennol yn ysgolia yng Ngheinewydd am ddwy flynedd, a blwyddyn arall o dan arolygiaeth ei dad. Nid oedd draper' yn John er hynny. Gwnai Fferyllydd neu Feddyg ardderchog, ac y mae'n amlwg fod llawer o alluoedd ei dad ynddo, yn arbennig ei syched angerddol am ddysgu ieithoedd. Aeth John o'r diwedd yn forwr, nid oherwydd ei serch at y môr, ond er mwyn gweled gwledydd eraill, a chael cyfle i ddysgu eu hieithoedd. Gellir edrych ar John yn iaith y dilledydd fel math ar gam-doriad (misfit) yn y byd, a bu farw yn 25 oed drwy foddi ar ddamwain yn y môr. "Bu ei dad yn ymofyn yn swyddfeydd Coroners' glannau y Dee a'r Mersi am hanes ei gorff, ond aflwyddiannus a fu'r ymchwil.[1] Ymhen dwy flynedd ar ôl claddu ei briod, symudodd John Davies a'r plant i le o'r enw Penrallt, Llanwinio, sef Medi 29ain, 1846, ond gan fod y lle dipyn yn anghysbell, dwy flynedd a fuont yno, a phrynodd le o'r enw Ietwen, gan adeiladu o'r newydd yno. Annedd lonydd, dawel ar rostir llwm o'r tu cefn i gapeli Hebron a Glandŵr ac i gyfeiriad Mynachlogddu ydoedd, a symudodd yno i fyw Gorffennaf 17eg, 1848, ac am 35 o flynyddoedd yno y bu'n trig-
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.