Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellaf, a rhai o'r nifer hynny nad oeddynt yn aelodau yn yr eglwys. Dywedir bod tri o'r rhai blaenllaw yn yr ystryw hwn wedi dod i ddiwedd trychinebus iawn a barodd i'r ardalwyr briodoli'r peth i farn Duw arnynt yn ôl rhybudd y gweinidog yn y fynwent. Wele ddyfyniad o ddarlith y Parch. J. Grawys Jones, Aberdâr ar y digwyddiad yn ei nodiadau,—

Aflwydd Lladron yr Allweddi. Rhown enwau Ysgrythurol ar y tri,—1. Sanbalat; 2.Tobiah; 3. Gesem. "Gesem.—Gŵr llwyddiannus iawn. Cylch eang o ffrindiau hawddgar, smart, clever. Aeth hwn i lawr o binacl llwyddiant ar ei ben i gors anobaith aflwyddiant. Yn y diwedd tagodd i farwolaeth wrth fwyta bwyd.

"Tobiah.—Gŵr cyfrwys ond tricky' oedd hwn. Gwelai yn mhellach na'i gyfeillion—cuddiai ei hun tu ôl iddynt. Yr oedd yn slâf i'r ddiod. Daeth adref, neu dygwyd ef adref, ni ŵyr neb gan bwy, wedi hanner nos, ac wedi hanner ei ladd. Bu farw mewn cyflwr gresynus.

"Sanbalat.—Gŵr craff iawn ond dirâs ei ysbryd. Aeth hwn yn hollol ffaeledig. Cadwai gert ac asyn i fynd ag ef o gwmpas. Gwerthai cockles' yn yr haf, ac efallai'sgadan' yn y gauaf. Tlawd a gresynus a fu ei yrfa a'i ddiwedd.[1]

Gwyddom fod eithafoedd ac anghywirdeb yn casglu a thyfu o gwmpas digwyddiadau cynhyrfus fel hyn, ond gwneir y ffeithiau yn fwy sicr gan gyfeiriad John Davies

  1. Nodiadau "Darlith ar Siôn Gymro," gan y Parch. J. Grawys Jones: op. cit.