Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun at yr anfadwaith yn ei gân, "Lladrad yr Allweddau"[1]. O dan y gân y mae'r ysgrifen ganlynol,— "Ar nos Sadwrn, Hydref 3, 1863, neu fore Sabboth, Sabboth Cymundeb Hyd. 4 cymerwyd allweddau y capel oddiar yr hoel lle y byddid arferol o'u cadw, gan eu cuddio, a chau y gynulleidfa allan o'r capel. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn yr ysgoldy ynghanol llawer o ddagrau, ond heb y Cymundeb. Cafwyd hwynt y dydd Mawrth canlynol gan Jason Phillips, Rhydcoedbach yng nghist fach ei gart ei hunan."

Rhoddwn bennill neu ddau o'i gân, sydd yn cynnwys 104 o linellau,—

Meddylient trwy guddio'r allweddau,
Mai hwy a feistrolent y maes,
Ond gormod fu'r antur annuwiol,
Trodd allan yn ddiflas a châs.
Yn lle buddugoliaeth a mawr glod,
Ni chawd ond difriaeth a gwg,
Yr ymffrost drodd allan yn siomiant,
Diflanodd y grechwen fel mwg.

Er hynny nid anwar yr ardal,
Y Lladron yw anwariaid y lle,
Anwariaid er golud a llwon,
Heb gerdded un cam tua'r ne.
Nid chwyddo gan olud na llwon,
Yw ffordd y Baradwys sydd draw.
Rhaid ysbryd heb ysbryd lladratta
Neu syrthia'r holl ymffrost i'r baw.


  1. "Flores Poetici"—Prydyddiaeth John Davies,—Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.