Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymreig yn 1909. Rhoddwn ychydig enghreifftiau o'r gwreiddioldeb yma. yn ôl detholiad y Prifathro: [1] " Am iddo losgi esgyrn brenhin Edom yn galch" (Amos ii, 1). (Amos ii, 1). "Yr oedd llosgi esgyrn dyn marw yn dangos dialgarwch enbyd; nis gallesid ei faeddu pan oedd yn byw, yna mynnid dial arno wedi iddo farw" (J.D.); [2] " Canys ni wna yr Arglwydd ddim ar nas dangoso ei gyfrinach i'w weision y prophwydi " (Amos iii, 7). "Mae Duw yn rhybuddio er mwyn rhoddi amser i edifarhau a diwygio. Diolched pechaduriaid am rybuddion." (J.D.); [3] "A myned i'r tŷ a phwyso ei law ar y pared, a'i frathu o sarph" (Amos v, 19). "Siaradai yr Iddewon yn gywirach na'r Cymry am ddull y sarph o niweidio dyn. Cnoi meddent hwy, a brathu meddwn ninnau. Cnoi y mae, ac nid yw ei cholyn ag a ddychmygir sydd yn brathu ond yn unig ei thafod, yn ei deuddant tyllog y mae y niwaid, ac nid yn ei thafod. Da pe buasai tafod llawer dyn mor ddiniwaid ". (J.D.): [4] "Ni oddiwes drwg ni, ac ni achub ein blaen " (Amos ix, 10),—yn hytrach "ni ddaw drwg yn agos, ac ni saif o'n blaen" ("neu ni wyneba arnom,"—J.D.).

Gellir dweud am y nodiadau eu bod o werth mawr i'r pregethwr a'r efrydydd gweinidogaethol.

[c] Cyfieithiadau ymyl y ddalen. Yn ddiau y peth mwyaf newydd ynddo, a'r mwyaf gwerthfawr i'r efrydydd yw'r cyfeiriadau hyn ar ymyl y ddalen at y Cyfieithiadau Groeg, Lladin a Syriaeg. Wrth graffu ar y rhai hyn sylweddolir ar unwaith fod gwahaniaethau am a phwysig rhwng y cyfieithiadau hyn a'r Hebraeg. Pan ddigwydd fod anhawster ynglŷn â'r darlleniad sydd yn yr