Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hebraeg, fel y bydd yn aml, ceir goleuni yn fynych. drwy ymgynghori â'r hyn a geir ar ymyl y ddalen. Dengys yr agwedd hon ar y gwaith fod yr awdur yn ysgolor gwych, a'i fod wedi rhoddi llafur ac amynedd difesur ymron yn y gwaith. Fe roddwn ychydig enghreifftiau er dangos hyn: [1] Joel ii, 23: yn ôl y darlleniad cyffredin fe ddiwedda'r adnod gyda'r ymadrodd—"Yn y mis cyntaf". Cyfieithiad John Davies yw "fel cynt". Hwn yn ddiau sydd gywir, ac, fel y dengys efe, yn seiliedig ar y Groeg a'r Syriaeg. Ceir yr un peth ar ymyl tudalen y C.D.—"at the first". Nid yw'r cyfnewidiad o bosibl yn bwysig, ond dengys gynllun yr awdur. [2] Hosea viii, 10: "Canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenhin y tywysogion " yw y C.A. Cyfieithia John Davies,—" Ac ymofidiant ychydig am y baich, yn frenin, yn dywysogion." Y C.D. yw "And they begin to be minished by reason of the burden of the King, of princes", ac ar ymyl y tudalen "Shall sorrow a little by reason of the burden of the King of princes". Gwelir bod John Davies yn unfarn â'r olaf. Ar ymyl y tudalen dywed mai'r Lladin yw,—am faich brenin, tywysogion". Y mae hwn yn debyg i'w aralleiriad ef. Dywed mai'r Syriaeg yw gorphwysant ychydig rhag baich brenhinoedd a thywysogion". Yn olaf dywed fod y Groeg yn darllen,—"am eneinio brenin a thywysogion". Dengys i ni mor amrywiol yw'r cyfieithiadau. Dywed John Davies ei fod wedi dewis ei eiddo ef am mai "y baich" oedd y dreth a roes brenin Assuria ar y wlad ".

[3] Hosea xi, 12 (xii, 1 yn yr Hebraeg). Y mae'r rhan olaf o'r adnod hon yn ansicr iawn. Nid anturia John