offrymau bwyd i mi yn y diffaethwch ddeugain mlynedd tŷ Israel?" Gallasai alw sylw at aralleiriad arall (fel Harper)" Ai aberthau ac offrymau yn unig" etc. Yn ôl y cyntaf ni offrymasant aberthau o gwbl, ac yn ôl yr ail gwnaethant hynny, ond gwnaethant rywbeth arall yn ogystal. Y mae adnod 26 yn fwy dyrys fyth. Y C.A. yw—" Ond dygasoch babell eich Moloch a Chiwn, eich delwau, Seren eich Duw, y rhai a wnaethoch i chwi eich hunain." Y C.D. yw—" Yea, ye have born Siccuth your king, and Chiun your images, the star of your God, which ye made to yourselves". Ar ymyl y tudalen rhydd yr olaf,——" Yea, ye shall take up Siccuth " etc., neu "Yea, ye shall take up the tabernacle of your King", neu" the tabernacle of Moloch ", ac yna "the shrine of your images ". Y mae John Davies yn dilyn yr olaf,—" Ond dygasoch babell eich Moloch, a sefyllfan eich delwau, seren eich duw, yr hwn a wnaethoch i chwi". Geilw sylw at y ffaith fod y cyfieithiadau eraill yn amrywio llawer. Y Syriaeg," Eich brenin a Sadwrn eich delw, Seren a wnaethoch yn dduw i chwi." Y Groeg," a seren eich duw chwi Rhaiphan eu lluniau hwynt a wnaethoch i chwi ". Ymddengys nad yw'n bosibl dyfod o hyd i ystyr yr adnod, yn wir y tair adnod olaf. Ond rhydd anhawster fel hyn brawf o fedr a meistrolaeth yr awdur ar ei waith.
Diddorol yw darllen y nodiadau mân ar waelod y tudalennau ganddo, a chael golwg ar Homer wedi ei wisgo mewn pennill Cymraeg, a Virgil a Lucan ac eraill yn yr un diwyg. Wele enghraifft neu ddwy o lawer tebyg, —Nahum iii, 2—3, "Swn ffrewyll, a sŵn trwst olwyni: A march yn carlamu. A cherbyd yn