Fel hyn y dywed y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, am yr esboniad yn ei Ragair i'w esboniad ef ar Lyfr Amos,—"Ymysg yr esboniadau yr ymgynghorais â hwynt, hoffwn gyfeirio at y 'Proffwydi Byrion' gan John Davies, Yetwen. Rhydd John Davies gyfieithiad gwreiddiol (a sylwadau gwreiddiol yn aml) ac ar ymyl y ddalen fe geir cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r hen gyfieithiadau,—y Groeg, y Lladin a'r Syriaeg. Pe bai'r esboniad wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, buasai yr awdur wedi ennill safle uchel ymysg esbonwyr y Proffwydi."
Diddorol yw stori y diweddar Barch. Evan Price (Ieuan Gorwydd) yn y Geninen[1] o dan y pennawd,— "Mewn Ymgom a Siôn Gymro." Digwyddai Mr. Price fod yn myned trwy'r dosbarth ar ei brawf fel myfyriwr, ac yn pregethu ar noson waith yn Llangamarch. Gofynnodd y pen-blaenor i Siôn Gymro, a ddigwyddai fod ar ymweliad â'r lle ym mis Awst, gymryd adnodau'r plant wedi i'r myfyriwr ieuanc ddechrau'r oedfa. Ni wyddai Mr. Price yn y byd pwy ydoedd y patriarch, ond deallodd yn fuan oddiwrth ei sylwadau ar adnodau'r plant fod yno ŵr mawr a dysgedig wrth y gwaith. Adroddodd un o'r plant yr adnod honno yn Genesis, "A Duw a anadlodd yn ei ffroenau ef anadl einioes". Yna nododd allan y termau gwahanol am Dduw yn Genesis—Elohim a Iafe, ac olrheiniodd athrawiaeth y "Deillio yng nghrefyddau'r Dwyrain, gan esbonio'r Hindwiaid a'u Holl-dduwiaeth yn maentumio bod mater ac ysbryd yn
- ↑ Ceninen Gwyl Dewi, Mawrth 1919.