Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un. Ar gais y pen-blaenor drachefn rhoddodd ychydig gynghorion i'r pregethwr ifanc wedi pregethu ohono ar y testun," Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw ". Dywedodd bethau addysgiadol iawn ar y geiriau pur, calon a Duw, gan olrhain eu hystyron yn y datguddiad dwyfol. Rhoddwn ddiwedd y stori yng ngeiriau Mr. Price yn ei ysgrif,—"Tranoeth yn ol fy arfer es i gyfnewid meddyliau â chyfaill diddan o bregethwr y diweddar Barch. T. Williams, Gorwydd. 'A wyddoch chwi pwy ydoedd y gŵr dieithr enwog a wrandawai eich pregeth gyntaf?' ebai'm cyfaill. Yna tynnodd i lawr o'i lyfrgell rifyn o'r Traethodydd[1] lle'r oedd adolygiad y Dr. Harries Jones ar y Cyfieithiad o'r Prophwydi Bychain' y cyfeiriwyd atto'n barod. 'Gallaf eich sicrhau,' ebai, 'na chewch neb pwysicach na dysgedicach chwaith i'ch gwrando byth eto—hyd derfyn eitha'r daith.' Yn ei adolygiad dywed Dr. Harries Jones" fod y gwaith y pwysicaf ar ryw olwg yn llenyddiaeth Cymru, ac y dylai fod yn destun-lyfr yn yr athrofeydd a'r ysgolion Sul drwy'r wlad, a'i bod yn syn fod gŵr o'r fath allu a dysg wedi ei oddef i drigo mewn dinodedd drwy ei oes, pan y dylasai fod mewn athrofa yn gosod eraill ar y ffordd i ddringo tylau serth dysgeidiaeth, ac y dylai Cymru'n gyfan deimlo'n falch fod cynnyrch meddwl mor annibynol a dysgedig wedi ymddangos yn hen iaith ein tadau."[2]

Ni ellir disgwyl i waith John Davies fod yn boblogaidd am ei fod yn rhy ysgolheigaidd i'r lliaws, ac ar y llaw

  1. Adolygiad Dr. Harries Jones, Trefeca, ar y Proffwydi Byrion—Traethodydd 1881.
  2. Y Geninen, Mawrth 1919. op. cit.