Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall ni fodlona y rhai sydd gynefin â'r Hebraeg am nad yw yn rhoddi'r gwahaniaethau sydd yn y Groeg, Lladin a'r Syriaeg yn y gwreiddiol. Ond rhaid cofio mai llyfr ydyw yn bennaf ar gyfer yr efrydydd meddylgar nad yw yn hyddysg yn yr ieithoedd a enwyd. I hyn nid oes dim o'i ragorach yn y Gymraeg na chwaith yn y Saesneg. Arferai Kilsby Jones ddweud mai tri ysgolor Dwyreiniol a feddai'r Ymneilltuwyr yn ei gyfnod yng Nghymru, sef Dr. Harries Jones, Trefeca gyda'r Methodistiaid, Parch. John Davies, Ietwen gyda'r Annibynwyr, a Dr. Vance Smith, Caerfyrddin gyda'r Undodiaid, ac ni phetruswn ddweud fod y gwaith hwn yn ategu'r dystiolaeth am ysgolheictod Siôn Gymro drwyddo.

EI GYFIEITHIAD O'R TESTAMENT NEWYDD—O'R GROEG I'R GYMRAEG.

Dywed Clwydwenfro yn un o'i lythyrau ar 'Yetwen a'r Teulu' yn y Diwygiwr fod John Davies wedi cyfieithu'r Testament Newydd o'r Groeg i'r Gymraeg. Ond pa le tybed yr ydoedd hwnnw wedi marwolaeth yr awdur? Erbyn hyn gwyddom mai yn meddiant un o berthynasau'r awdur yr ydoedd, sef Mr. J. Davies Jones, Beulah, Ceredigion, ac mai yno y daeth y Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble, i feddiant ohono, yr hwn fel y deallwn sydd yn trefnu i'w roddi yn nwylaw'r cyhoedd yn fuan, wedi ei argraffu o lawysgrif yr awdur fel y mae ar hyn o bryd. Y mae'r cyfieithiad sydd ym meddiant Mr. Lewis mewn dwy ran, ac wedi ei ysgrifennu mewn inc. Dyddiad y cyfieithiad hwn ydyw 1839-40, ac ar ddiwedd rhai o'r llyfrau rhydd yr awdur