Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ni y dyddiad, a pha faint o'r gloch hyd yn oed oedd hi pan orffennai ei waith wrth fyned ymlaen.

Ond yr anhawster mwyaf ynglŷn â'r gwaith yw penderfynu pa destun Groeg a ddefnyddiodd John Davies? Gwyddom i sicrwydd nad oedd ganddo un o'r testunau a fabwysiedir heddiw fel rhai safonol. Ni allasai John Davies oherwydd cynharwch ei gyfnod wybod am η κοινε (η κοινη γλοσσα,the common tongue, iaith gwerin yr oes) oblegid yn yr hanner-can mlynedd diwethaf y darganfuwyd hi ym mhapur-frwyn (papyri) yr Aifft. Fel y gwyddom, y mae llawer o eiriau yn y Testament Newydd nad ydynt mewn Groeg clasurol, ac ni wyddai neb eu hystyr. Geiriau ydynt a ddefnyddid ym mywyd beunyddiol y bobl dri chan mlynedd wedi i'r Roeg glasurol beidio â bod ar arfer. Un enghraifft o hyn yw'r ymadrodd "Ein bara beunyddiol". "Daily bread " yw'r Saesneg yng Ngweddi'r Arglwydd. Nid oedd y gair—daily ond dyfaliad— yr oedd y gair Groeg yn anadnabyddus. Erbyn heddiw gwyddom ei fod yn cael ei ddefnyddio am ddogn (ration) o fara. Felly'r cyfieithiad iawn yw "Dyro i ni heddiw ein dogn (ration) o fara " fel gyda'r manna gynt yn yr anialwch.

Pa destun ynteu a ddefnyddiai John Davies yn sail i'w gyfieithiad? Argraffwyd eiddo Westcott a Hort yn 1881.

Yna daw Tregelles a Tischendorf—yr olaf yn argraffu ei waith, sef ei wythfed argraffiad, yn 1869, ac argraffiadau llai tua 1860. Felly hefyd Tregelles tua 1860, ond rhydd y dyddiad wrth gyfieithiad John Davies y rhai hyn allan o'r cyfrif. Un o'r argraffiadau gorau oedd eiddo Griesbach tua 1800, a Lachmann