Felly am y llyfrau dilynol megis,— Acts, commenced July 1837, finished Sept. 13, 1837 Romans—Finished Jan. 30, 1837."
Yna wedi dod at Timotheus I cawn nodiad fel hyn,—
"An attempt at a Revision to Griesbach's Text of the Welsh Translation of the New Testament, commenced Dec. 1st, 1834. J.D."
Rhoddwn enghraifft o'i waith ar y bennod gyntaf o I. Timotheus.
"1. Paul Apostol Iesu Grist yn ol gosodiad Duw Ein Hiachawdwr a Christ Iesu ein Gobaith.
"2. I Timotheus, blentyn ddidwyll[1] mewn ffydd, y byddo gras, trugaredd, tangnefedd[2] oddiwrth Dduw ein Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3. Megis pan yn myned i Macedonia y deisyfais arnat i aros yn Ephesus fel y gorchymynit i rai na ddysgont bethau[3] dieithr.
"1. Blentyn ddidwyll. Nid mab naturiol yr Apostol oedd Timotheus. Nid yw sicr chwaith a ddychwelwyd ef trwy weinidogaeth Paul. At garacter Timotheus fel crefyddwr didwyll a chywir y cyfeiria yr Apostol, ac nid at un berthynas ai crefyddol a'i naturiol a allasai fod rhyngddynt.
4. Yn lle adeiladaeth dduwiol myn Griesbach ddarllen goruchwyliaeth Duw, os hyn yw y darlleniad goreu, rhydd ar ddeall mai nid cyfundraeth o gwestyniau dryslyd yw yr Efengyl neu Gristionogaeth, ond casgliad o bethau eglur i'w gwneuthur heb ddadleu