ac ymryson. Y Cyf. Syriaeg yw adeiladaeth yn ffydd Duw."
Dim ond I. Timotheus sydd ar y dull a'r ffurf hon ar y gwaith, yr hyn sydd yn hynod debyg i'r cynllun a gymerodd gyda'r 'Proffwydi Byrion'.
Fodd bynnag, dyna ddigon o ffeithiau i brofi mai copïau'r Parch. D. J. Lewis, B.A. yw'r diweddaraf, ac mai testun Griesbach yw'r sail i'r cyfieithiad yn ddiau.
Gresyn gennym na allwn fanylu ar y gwaith ymhellach ar hyn o bryd oherwydd perchenogaeth breifat o'r copïau, ond cawsom gan y Parch. D. J. Lewis, B.A. roddi inni y canlynol fel rhan o ffrwyth ei gydnabyddiaeth â'r gwaith.
Dywed Clwydwenfro yn Hanes Eglwys Glandŵr, am y Parch. John Davies, "Yma hefyd (Yetwen) y cyrhaeddodd prif nod lenyddol ei fywyd, sef gorphen ei gyfieithiad o'r Testament Newydd o'r Groeg i'r Gymraeg, er heb ei gyhoeddi hyd yn hyn." Aeth llawer blwyddyn heibio heb fawr o oleuni ar y mater. Heddiw gwyddom fod o leiaf ddau gyfieithiad cyflawn o'r Testament Newydd ar gael o eiddo Siôn Gymro. Anodd meddwl sut y cyflawnodd y fath orchest, pan gofiwn am ei lafur a'i brysurdeb mewn cyfeiriadau ereill. Nid yn unig yr oedd yn ysgolhaig gwych, ond hefyd yn weledydd ysbrydol; dyna a gyfrif am ei ymdrechion clodwiw. Dengys fedr a gofal tu hwnt i'r cyffredin yn ei gyfrolau sydd ger ein bron. Tair cyfrol yw y rhai hyn yn cynnwys y cwbl o'r Testament Newydd, a dau gyfieithiad o'r Epistolau. Ar wahân i'r cannoedd arall—eiriadau "ar ymyl y ddalen, nid oes un nodiad o'u mewn ond cyfeiriad at yr amser y dechreuir, ac y