LLYFR COHELETH. Ar yr wyneb ddalen i'r gwaith hwn a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir yr ysgrifen ganlynol:
"An attempt at a Revision of the Welsh translation of the Book usually called the Book of the Preacher commenced Nov. 26, 1832, Monday afternoon."
Gwaith argraffedig yw hwn heb fod yn cyrraedd ymhellach na Pennod v, 8.
Rhoddwn enghraifft o'r gwaith yn ei arall—eiriad a'i nodiadau yn fyr,
"Pen. I. Adn. 1. Geiriau Coheleth, mab Dafydd, brenin yn Jerusalem.
Adn. 2. Llwyr wagedd medd Coheleth. Llwyr wagedd, y mae y cwbl yn wagedd. 3. Pa ennill sydd i ddyn yn ei holl drafferth yr ymdraffertha ynddo dan yr Haul. 4. Y mae Cenedlaeth yn myned, a chenedlaeth yn dyfod, ond y mae y ddaear yn aros byth—o hyd."
Ceir nodiadau ar y dull hwn,—
"Pen. I.
Adn. 2. Llwyr wagedd medd Coheleth, llwyr wagedd, gwagedd[1]
yw y cwbl.
HORAE PETRINAE. Cyfres o ddarlithiau yw'r rhai hyn a draddodwyd yn eglwys Glandŵr yn fuan wedi ordeinio'r Parch. John Davies. Ar yr wyneb—ddalen i'r gwaith ceir y geiriau canlynol,—"Tua dechreu'r flwyddyn 1830 traddodwyd y rhan fwyaf o'r darlithiau
- ↑ Y mae y cwbl yn wagedd.