canlynol yng nghyfarfodydd Mercher a Sadwrn yr eglwys i ba un y mae'r ysgrifennydd yn weinidog. Efallai mai nid yn hollol ddifudd y buont ar yr achlysuron hyny, a'r chwenychiad iddynt fod o fwy defnydd nac y gallasent fod wrth eu cyfyngu i un eglwys fechan a chymydogaeth amhoblog, a bwriedir eu cyhoeddi trwy'r argraffwasg " etc. Y mae rhai o'r nodiadau ar y geiriau Groeg ar waelod y ddalen yn gyfraniad gwerthfawr ond cyfuniad o'r esboniadol a'r arall-eiriol yw'r gwaith drwyddo. Cyfeddyf yr awdur ei fod wedi defnyddio esbonwyr ei ddydd yn y gwaith, ac felly nid yw o'r un aeddfedrwydd â'r Proffwydi Byrion'.
Cyfieithodd John Davies rannau helaeth o esboniad Matthew Henry i'r Gymraeg i'r Parch. E. Griffiths, Abertawe, esboniad a geir eto yn bur gyffredin ar aelwydydd ein gwlad. Dengys y gweithiau hyn fawredd y gwaith a gyflawnodd. Ynghyd â'i fedr a'i lwyredd fel Ysgolhaig Beiblaidd, a dyna ydoedd yn anad dim, cawn ei fod yng Ngholeg y Bala yn 1869 a 1870, yn gweithredu yno yn lle'r Athro Michael Jones pan oedd yr olaf ar ymweliad â'r Wladfa Gymreig.
Yr oedd ysgolheigion gorau Prydain yn gohebu ag ef, megis Esgob Llandâf a Dr. Pusey o Rydychen ac eraill, a hynny'n rheolaidd ac yn aml. Pan fu offeiriaid Cymru yn sôn am gyhoeddi yn ei gyfnod Gyfieithiad Diwygiedig o'r Ysgrythurau, anfonwyd ato ef gyda'r cyntaf am ei gydweithrediad, ac efe oedd yr unig ymneilltuwr y danfonwyd ato ynglŷn â'r gwaith bwriadedig. Yr oedd yn ymwelydd ffyddlon â Choleg Aberhonddu, ac yn fynych yn cael ei alw i holi o flaen y Pwyllgor yr ymgeiswyr am dderbyniad i'r Coleg.