Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V
IEITHYDD A CHYFIEITHYDD

MEWN rhagair byr i esboniad ar lyfr Amos a gyhoeddwyd dros chwarter canrif yn ôl, cyfeiriais at 'Y Proffwydi Byrion' gan John Davies, Ietwen, ac awgrymais yr enillasai'r awdur safle uchel iddo'i hun ymhlith efrydwyr llenyddiaeth broffwydol yr Hen Destament pe cyhoeddasai gyfrol o'r fath yn Saesneg. Y mae'r gyfrol ysgolheigaidd hon yn cynnwys cyfieithiad gwreiddiol o'r proffwydi byrion ynghyd â nodiadau eglurhaol, ac ar ymyl y ddalen dyfynnir o'r hen gyfieithiadau—Lladin a Groeg a Syriaeg. Ni wn am gyfrol gyffelyb mewn unrhyw iaith. Ni wyddwn ddim ar y pryd am John Davies ond iddo dreulio oes gyfan fel gweinidog mewn ardal wledig. Ni allwn lai na synnu fod gweinidog Cymraeg na fu mewn Coleg y tu allan i Gymru, wedi efrydu digon ar amryw hen ieithoedd i gyhoeddi cyfrol na fuasai ar athro yr un o golegau Rhydychen neu Gaergrawnt gywilydd i'w harddel am mai cyfrol ydoedd na allai neb ond efrydydd ac ysgolor ei hysgrifennu. Trwy ymchwiliad pellach i'w hanes, daeth goleuni newydd ar rai cwestiynau, ond nid yw'r ymchwiliad wedi peri imi newid fy marn am werth y gyfrol. Wedi deall yr amgylchiadau, coleddaf syniad uwch am John Davies oherwydd y llafur a'r ymroad a oedd yn angenrheidiol,—ar ôl iddo orffen ei gwrs mewn coleg,—i'w gymhwyso'i hun i gyhoeddi