Gwelir y safbwynt hwn mewn llythyr a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr o'r Diwygiwr yn y flwyddyn 1836. Nid oes enw ond "Syl." ar ddiwedd y llythyr. Cynnwys y llythyr feirniadaeth lem ar gyfieithiad newydd o'r bennod gyntaf o Lyfr Nahum, a argraffwyd yn rhifyn Gorffennaf. Awgrymwyd eisoes mai John Davies oedd y cyfieithydd.
Yr oedd awdur y llythyr yn gyfarwydd â'r iaith Hebraeg. Tynnir sylw at y llythyr, nid am fod unrhyw werth yn ei feirniadaeth ond am ei fod yn mynegi'r farn gyffredin ar y pryd,—"Parodd yr olwg ar Nahum," meddai'r critig, " yn ei wisg newydd ryw aidd dros fy Meibl Cymraeg. . . . . a pharod wyf i sefyll dros fy Meibl Cymraeg fel y mae yn hytrach na gweled y fath annibenrwydd ac anghelfyddydrwydd â hyn, a phenderfynais godi fy llais dros fy Meibl Cymraeg a dymuno ar bawb i beidio gwaradwyddo dysgeidiaeth ryfeddol yr oes y cyfieithiwyd ef. . . efallai y par ofid a phetrusder ym mynwes rhyw gristion gwan am gywirdeb y cyfieithiad Cymraeg ac yna amheuaeth am wirionedd. yr Ysgrythyr Lân . . . holl fwriad y llinellau presennol yw attal y fath waith i fyned yn mlaen . . . os na ellir gwneyd y cyfieithiad yn fwy eglur na'r un sydd gennym, nid oes hawl, ac nid yw'n briodol i ni gymmeryd arnom i wella yr hyn, ar ba beth y cytuna dysgedigion penaf yr oes mai anhawdd gwella; ac na fydded i ni gymmeryd arnom eistedd yn nghadair y dysgedigion rhagorol a drefnodd y Goruchaf, yn sicr, i gyfieithu ein Beibl i'r Gymraeg." Nid yw awdur y llythyr yn hawlio hyfforddiad dwyfol i'r cyfieithwyr ond y mae ymadroddion megis y dysgedigion rhagorol a drefnodd y Goruchaf i gyfieithu ein