Beibl i'r Gymraeg a dysgeidiaeth ryfeddol yr oes' yn lledawgrymu na ddylai neb—heb gymwysterau cyffelyb, onid gwell,—fod mor rhyfygus â chymryd arno i'w wellhau a'i ddiwygio. Pan goleddid syniad o'r fath am y Beibl Cymraeg ni ellid disgwyl dim ond gwrthwynebiad pendant i bob ymgais i gyhoeddi cyfieithiad newydd. Yn ddiamau yr oedd awdur y llythyr hwn yn mynegi'r farn gyffredin ar y pryd ac, yn wyneb y rhagfarn hon, ofer fuasai ei hanwybyddu gan na ellid disgwyl am gylchrediad i gyfrol o'r fath. Anodd i ni heddiw ddeall safbwynt o'r fath am ein bod yn gyfarwydd ag amryw gyfieithiadau Saesneg o'r Beibl neu o rannau ohono a hefyd gyfieithiadau Cymraeg. Dichon mai John Davies oedd y cyntaf i awgrymu y gellid cael cyfieithiad cywirach, yn arbennig o ddarnau barddonol yr Hen Destament. Tua chanol y ganrif cyhoeddwyd cyfieithiad gwreiddiol o lyfr Job a'r Diarhebion a'r Salmau gan Thomas Briscoe, S.T.B., Is-lywydd ac Athro hynaf Coleg yr Iesu, Rhydychen (1854-1855). Tua'r un adeg cyfieithodd John Owen, M.A., offeiriad yn Thrussington, swydd Caerlŷr, ond brodor o Lanfihangel-Ystrad, Ceredigion—nifer o'r proffwydi byrion, sef Hosea, Micah, Habacuc, Obadiah, a Galarnad Ieremiah, ac ymddangosodd ei gyfieithiadau yn ' Y Traethodydd' (1852-1856). Dichon mai bwriad y ddau gyfieithydd oedd cyfleu arddull farddonol y llyfrau a gyfieithwyd ganddynt.
Ond ar wahân i'r gwrthwynebiad a godai o'r syniad hwn am y Beibl Cymraeg, y mae'n eglur fod amryw weinidogion yn amau cymhwyster John Davies i gyhoeddi cyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion y ceir