ynddynt rai o'r darnau mwyaf anodd i'w cyfieithu yn yr Hen Destament. Hyn oedd ar feddwl ei hen athro, Thomas Phillips y Neuaddlwyd, pan ddywedodd yn ei ffordd ysmala ei hun—"Gwell i John aros yn Iericho hyd oni thyf ei farf".
Pan orffennodd John Davies ei gwrs yn academi'r Drefnewydd yr oedd yn fwy o ysgolhaig clasurol nag ydoedd o Hebreigydd. Dechreuodd astudio Lladin a Groeg yn ysgol y Neuaddlwyd ac ymddengys iddo aros dros ddeng mlynedd yn yr ysgol. Rhaid ei fod yn gymharol gynefin â'r ddwy iaith pan dderbyniwyd ef gan y Bwrdd Cynulleidfaol i'r academi yn y Drefnewydd. Treuliodd bedair blynedd yn yr athrofa ac yn ystod y tymor hwn astudiodd Hebraeg ac ieithoedd perthnasol ynghyd ag amryw bynciau eraill. Yr oedd cwrs addysg yr athrofa, o angenrheidrwydd, yn gynhwysfawr iawn, gan nad coleg diwinyddol yn unig oedd ar y pryd. Yr oedd Edward Davies—llywydd y coleg— yn ysgolhaig clasurol ac ef oedd yn gyfrifol am gynnal dosbarthiadau mewn Hebraeg, Aramaeg a Syriaeg. Ni osodid pwyslais arbennig ar yr ieithoedd hyn. Gwelir wrth gofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol (1823) fod cwrs addysg y coleg ar y pryd yn cynnwys Lladin, Groeg, Hebraeg, Aramaeg, Syriaeg, Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Rhifyddiaeth, Mesuroniaeth, Daearyddiaeth, Athroniaeth Naturiol, Hanes Eglwysig, Beirniadaeth Feiblaidd, Diwinyddiaeth ac Areithyddiaeth. Nid oedd yn bosibl rhoddi sylw arbennig i unrhyw bwnc. Dyma'r maes llafur mewn Hebraeg, Aramaeg a Syriaeg yn y flwyddyn 1823. Yr oedd John Davies yn yr athrofa ar y pryd.