Hebraeg (yr ail ddosbarth) Eseciel 20.
Hebraeg (y dosbarth cyntaf) Genesis 49, Iosua 10. Aramaeg, Daniel 5 a'r darnau Aramaeg o Esra. Syriaeg, Actau 26.
A'r pynciau mor lluosog, ni ellid disgwyl mwy. Nid oedd y cwrs Hebraeg ond prin ddigon i lwyddo yn arholiad cyntaf Prifysgol Cymru am radd mewn Diwinyddiaeth. Y mae yn ffaith gwerth ei chofnodi fod Athrofa'r Drefnewydd ar y blaen o'i chymharu ag academïau eraill yn Lloegr, ac i'r Athro Edward Davies y perthyn y clod am hyn. Danfonid arholwyr bob blwyddyn gan y Bwrdd Cynulleidfaol, ac yn adroddiad y Parchedig John Stuart, D.D., Lerpwl, a ymwelodd â'r athrofa yn y flwyddyn 1825 pan oedd John Davies ar ei flwyddyn olaf yn y Coleg, ceir y geiriau a ganlyn am y myfyrwyr:—" Their knowledge of Hebrew, Aramaic and Syriac is beyond anything in any Theological College". Ond rhaid inni gofio beth oedd y safon a gydnabyddid ar y pryd mewn academïau o'r fath. Ni fwriedid i'r myfyrwyr ddysgu dim ond elfennau'r ieithoedd hyn. Y mae'n amlwg nad oedd John Davies ar ddiwedd ei gwrs yn Hebreigydd yn ystyr gywir y gair, ond yr oedd wedi dysgu digon i deimlo awydd i gynyddu yn ei wybodaeth o'r iaith yr ysgrifennwyd yr Hen Destament ynddi. Trwy ddyfal astudiaeth, yn ystod ei weinidogaeth fe ddaeth John Davies mor gyfarwydd â'r Hebraeg ag ydoedd â Lladin a Groeg ond camgymeriad yw'r syniad ei fod yn Hebreigydd ar ddechrau ei yrfa fel gweinidog. Ni synna arnom o gwbl fod ei hen athro yn amau ei gymhwyster ar y pryd i roddi cyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion.