Cymraeg fel cyfieithiad. Gwelir ei safbwynt yn y dyfyniad a ganlyn o'r erthygl a grybwyllwyd uchod: "Gellir sylwi fod llawer darn o'r Beibl eto heb ei ddeall. Uwch ben llawer man yn yr Hen Destament a'r Newydd, gellir gofyn—Pwy a ddeallodd y gyfran hon? Y mae llawer rhan o'r Beibl Cymraeg yn anmhosibl ei ddeall. Nid yw yr ymadroddion eu hunain yn ddealladwy. Yn y Testament Newydd y mae llawer rhan, o ysgrifeniadau Paul yn neillduol, heb eu deall. A oes rhywun yn Nghymru a feiddia ddywedyd ei fod ef yn deall y llythyr at y Rhufeiniaid neu at yr Hebreaid?" Ni synnwn ddim iddo feddwl,—ag ef yn credu hyn am y Beibl Cymraeg—fod cyfieithiad newydd yn angenrheidiol—cyfieithiad cywirach a mwy dealladwy. Ond wrth ymgodymu â'r anawsterau sylweddolodd mor anodd y dasg. Ceir ymadroddion awgrymiadol am ei brofiad yn yr un erthygl:—" Cofier mai nid gwaith diwrnod nac oes ychwaith yw deall ysgrifeniadau mor hen, mor wahanol i syniadau arferol y gwledydd gorllewinol a gogleddol yma—ysgrifeniadau sydd mewn ieithoedd dyeithr, ac mewn ystyr ieithoedd meirwon." Dyna'i brofiad ar ôl treulio blynyddoedd i feistroli'r Hebraeg ac ieithoedd perthnasol, oblegid yr oedd yn ddeugain oed pan ysgrifennodd yr erthygl y dyfynnwyd ohoni.
Y mae'n eglur nad gwrthwynebiad ei gydweinidogion yn unig a barodd i John Davies oedi cyhoeddi ei gyfrol ar Y Proffwydi Byrion'. Bu wrthi'n ddyfal drwy'r blynyddoedd yn cywiro a diwygio ei gyfieithiad a'i esboniad, gan gymaint ei awydd i gyfleu'r meddwl yn gywir a diamwys. Y mae'n amlwg iddo newid ei farn am gynnwys ei esboniad. Nid oedd mwy ar ei feddwl