ar y dechrau na chyfieithiad a sylwadau ymarferol. Gwerth ei esboniad i efrydydd llenyddiaeth broffwydol yw'r cyfieithiadau o'r hen gyfieithiadau—Lladin, Groeg, a Syriaeg ar ymyl y ddalen. Ffrwyth astudiaeth a llafur am flynyddoedd lawer oedd hyn.
Nid dyfalu yr ydys wrth honni bod yr awdur wedi bod wrthi'n ddyfal am hir amser yn cywiro ei gyfieithiad ac yn gwellhau ei nodiadau. Ni ellir credu'n amgen os cymherir ei gyfieithiadau' cyntaf o'r proffwydi (1835-36), ei gyfieithiadau diweddarach, fel y'u ceir mewn llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth (1864-1866) a'i gyfieithiad yn y gyfrol gyhoeddedig (1881).
Yn y 'Diwygiwr' am Ionawr 1836 ymddangosodd cyfieithiad o' Weledigaeth Obadiah' gyda rhagair byr a sylwadau ymarferol. Dilynwyd y cyfieithiad gan gyfieithiadau o Habacuc, a Nahum a Sephaneia mewn rhifynnau diweddarach. Nid oes un enw wrth y cyfieithiadau hyn ond bernir yn gyffredin mai John Davies oedd y cyfieithydd. Cyfeiriasom eisoes at lythyr rhyw gritig dienw a'i feirniadaeth lem ar y cyfieithiad o'r bennod gyntaf ym mhroffwydoliaeth Nahum. Dyma ran o'r rhagair i'r Cyfieithiad o Habacuc yn y Diwygiwr' am Mawrth (1836): "Saif y proffwyd hwn yn uchel ymhlith y prydyddion Hebreaidd; y mae ei ddrychfeddyliau yn hedegog a hardd a'r iaith yn mha un y gesyd hwynt allan yn fywiog a grymus, yn enwedig yn ei gan yn y bennod olaf." Cymharer y dyfyniad uchod â'r rhagymadrodd i Habacuc yn ei gyfrol ar 'Y Proffwydi Byrion' a argraffwyd yn 1881. "Saif Habacuc yn uchel ymysg y prydyddion Hebreaidd.