Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ei feddyliau yn hedegog a'i lafar yn fywiog a grymus yn enwedig yn ei weddi neu ei hymn yn Pen. III."

Dyma ddarn o'r rhagair i Obadiah yn y 'Diwygiwr' am Ionawr (1836): "Ni wyddis pa le na pha bryd y ganwyd y Proffwyd hwn . . . nid yw ei broffwydoliaeth ond ber... y mae yn gynnwysedig o ddwy ran y gyntaf yn fygythiol, yn erbyn Edom yn bennaf am eu balchder a'u casineb creulon at yr Iddewon. Yr ail yn gysurlawn, yn rhagddywedyd adferiad yr Iddewon o'u caethiwed, eu buddugoliaeth ar eu gelynion, a'u cyflwr llwyddiannus yn y canlyniad." Cymharer y dyfyniad uchod â'r geiriau a ganlyn o'r rhagair i Obadeia yn ei gyfrol gyhoeddedig: "Ni wyddis pa le na pha bryd y ganwyd y proffwyd hwn . . . Proffwydoliaeth fer ydyw ysgrif Obadiah . . . ac yn gynnwysedig o ddwy ran y gyntaf yn cynnwys bygythion yn erbyn Edom am eu balchder a'u casineb at yr Iddewon. Yr ail, yn gysurlawn, yn rhagddywedyd adferiad yr Idduewon o'u caethiwed, eu buddugoliaethau ar Edom a'u cyflwr llwyddiannus a sanctaidd ar ôl llaw."

Dengys y dyfyniadau uchod mai John Davies oedd awdur y cyfieithiadau yn y 'Diwygiwr' (1836) a'i fod yn barod iawn i ddwyn i mewn fân gyfnewidiadau yn ei nodiadau ar y proffwydi. Newidiodd ei farn am ystyr amryw ymadroddion a hyd yn oed am genadwri'r proffwyd.

Yn ei ragair i'w gyfieithiad o lyfr Nahum yn y 'Diwygiwr' am Orffennaf (1836) darllenir:—" Dywed Ierom mai pentref yn Galilea oedd Elcosa . . . fel prydydd ystyrrir Nahum gyda y rhagoraf o'r proffwydi