Byrion . . . mae ei ddull a ddesgrifir yn oruchel, dewr a thanllyd." Os darllenir ei ragymadrodd i Nahum yn ei gyfrol gyhoeddedig gwelir iddo newid ei farn—nid heb achos—am safle'r proffwyd ymysg y proffwydi. Gadawodd allan yr ymadrodd bod Nahum "gyda y rhagoraf o'r proffwydi byrion," a newidiodd ei ansoddeiriau am iaith y proffwyd: "Y mae iaith Nahum yn. brydferth, bywiog a chyffrous."
Ni ellir casglu oddiwrth y Cyfieithiad mai John Davies oedd y cyfieithydd, ond prawf yw hyn ei fod yn dueddol i newid ei farn a'i gyfieithiad.
Crybwyllasom eisoes fod cyfieithiad o'r proffwydi byrion mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ceir amryw ddyddiadau yn yr ysgrifau —y dyddiad cyntaf yw Gorffennaf 4, 1864, a'r olaf Mehefin 26, 10.15 o'r gloch yn y bore, 1866. Diddorol yw cymharu'r cyfieithiad hwn â'r cyfieithiad o rai o'r proffwydi byrion yn y Diwygiwr' am 1836. Y mae'r cyfieithiad yn y gyfrol gyhoeddedig yn wahanol i'r naill a'r llall. Nid yw'r gwahaniaeth, ond yn anaml, yn newid y meddwl. Ni wneir mwy na newid gair. Y mae'n eglur i'r cyfieithydd gael trafferth i wneud ei feddwl i fyny beth oedd y gair neu'r geiriau mwyaf cymwys i gyfleu'r meddwl. Fel rheol newidiodd ei gyfieithiad er gwell. Ond nid oedd John Davies yn feistr ar arddull lenyddol. Nid ysgrifennu Cymraeg dillyn oedd ei fwriad fel cyfieithydd ond cyfleu'r meddwl yn gywir. Rhodder enghraifft neu ddwy.
Amos v.—a chyfiawnder fel llifeiriant nerthol (di-baid), ffrwd (gref) (1864-66) a chyfiawnder fel llifeiriant cryf (1881).