Who had the oversight of the [Marprelate] Libell at Fawslie? Iohn of Wales': who was the Corrector of the [Marprelate] Press at Coventrie? John of Wales': who wrote the last treatise of Reformation so full of slanders, but 'Iohn of Wales'."
Felly gelwid John Penry yn ei ddydd yn 'Iohn of Wales'. Dyna 'Ioannes Cambrensis' neu 'Siôn Gymro'. Onid hyn a barodd i'r Parch. John Davies ei alw ei hun yn "Siôn Gymro "?
Wele ddyfyniadau o ysgrifau Clwydwenfro ar "Yetwen a'r Teulu " yn delio â'r agwedd hon i'w waith,— "Yr oedd Castellanus fel y dywedwyd eisoes yn llenor. Oedd yn sicr, ac yn llenor o radd uchel, ac ar raddfa eang. Nid llawer o'r oes hon a ŵyr am amlder ac amrywiaeth ei gynyrchion llenyddol. Ysgrifennai yn gynnar yn ei oes weinidogaethol i'r "Pembrokeshire Magazine ". Y mae peth o'i waith i'w weled yn yr "Evangelical Magazine". Yn yr Efengylydd' am 1831, tudalen 227, gwelir ei hanes am farwolaeth dau o blant Glandŵr, ei deulu yng nghyfraith."[1] Wele gyfeiriad arall ato yn y Nodion Misol' gan olygwyr y 'Diwygiwr ',—" Bu ef yn un o gefnogwyr ffyddlon y 'Diwygiwr' o'i gychwyniad yn gyd-fyfyriwr â'i olygydd cyntaf, a gwyddom y bydd yn hyfrydwch mawr gan ei ddarllenwyr gael ar ddeall ein bod newydd dderbyn oddiwrtho bregeth ar "Berthynas Marwolaeth Crist a Maddeuant Pechod " yr hon bregeth yn bur debyg ydoedd y ddiweddaf a gyfansoddwyd ganddo."[2]