Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu hefyd yn gyfrannwr achlysurol i'r 'Dysgedydd', 'Seren Gomer', Y Cronicl', Y Geninen ', etc., a'i ysgrifau bob amser yn llawn athroniaeth a gwybodaeth a doethineb. Ond yn y cymeriad o Ddadleuydd yr ysgrifennai ef yn bennaf, ac wrth gywiro ac adolygu ysgrifau a gweithiau eraill yr oedd o angenrheidrwydd yn codi dadl ar adegau, ac ni allasai dyn o'i ddysg a'i ddawn ef y pryd hwnnw gadw allan o rai dadleuon poeth iawn. O ddarllen ei ddadleuon yn deg a diragfarn, gwelwn na chafodd y gwaethaf yn un ohonynt, ond yn hytrach y trechaf. Awgrymiadol yw cyfeiriad Clwydwenfro ato fel Dadleuydd,—" Dull Socrates of ymresymu oedd dull Castellanus o ymresymu. Holai ofyniadau y naill ar y llall, nes arwain y cyfryw a holai yn raddol i'w afaelion trwy fradychu eu hunain yn anymwybodol iddynt eu hunain, nes myned i'r rhwyd, ac yna daliai hwynt. Gyrrai hwynt i gongl, ac wedi eu cael yno, gwasgai hwynt fel nad allent syflyd. Gwnai alanasdra a'i ofyniadau temtiol i dynnu dyn i'r trap, a gosodai y clapper ar ei ben yno, nes iddo waeddi ei fod yn rhoddi i fyny. Yn ei ysgrif flaenaf mewn dadl dangosai ei hun fel yn haner—amheus ac anwybodus o bethau, ac yn ceisio goleuni ar bethau. Deuai ei wrthwynebydd allan yn eofn iawn, heb wybod yn y byd pwy ydoedd, a chymerai drugaredd ar ei anwybodaeth fel y tybiai, tra wrth wneud hyny o garedigrwydd gwnai noethi ei hun yn anwyliadwrus, ac anturio yn rhy bell, ac yn hollol ddifeddwl o'r hyn oedd yn ei aros. Byddai Castellanus yn tori pwll iddo yr holl amser, ac yn ei gyfrwys guddio a dail fel heliwr anifeiliaid gwylltion yn yr anialwch. Rhuthrai ei wrthwynebydd