Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn mlaen yn hyf a diystyr o'r canlyniadau nes y byddai ar ei ben yn y pwll, ac yna gwaeddai allan, wedi ei niweidio a'i garcharu, na feddyliasai fod magl o'r fath i'w ddal na saethau llymion i'w glwyfo. Dyna Socrates bob tipyn."[1]

Hawdd gennym gredu bod un mor hyddysg yn yr iaith Roeg yn gyfarwydd â chynllun Socrates o ymresymu a dadlau. Bu mewn chwech o ddadleuon poeth heb sôn am ei lythyrau mân eraill yn y Wasg yn cywiro ac adolygu ysgrifau. Y tair dadl fawr oedd y rhai hyn y gyntaf â'r Parch. John James, Gellionen, gweinidog gyda'r Undodiaid, ar faes Seren Gomer' 1832 ac 1833. "Yr oedd Cymanfa'r Undodiaid" wedi ei chynnal yn Rhydyparc ger Moriah yn 1832 mae yn debyg. Dygodd y Parch. John James gyhuddiadau pwysig yn erbyn pregethwyr teithiol yr enwadau eraill a'r casglwyr cenhadol. Condemniai y naill y llall fel rhai yn gweithio am arian yn unig, ac yn gyfryw a lafurient am y tâl, ac nid o gariad at y gwaith. Anfonodd y Parch. John Davies, Glandŵr, fel y llawnododd ei enw wrth ei ysgrif, gais ato i brofi a chyfiawnhau ei sylwadau ar dudalenau Seren Gomer'. Cydsyniodd y Parch. J. James, ond buasai cystal iddo beidio. Cafodd ffrewylliad yn 'Seren Gomer' Ion. 1833 nes oedd yn gwingo. Atebodd J. James yn tudalen 100 ac awgrymu ar y diwedd na ddisgwylid iddo wneud sylwadau ychwanegol ar nodiadau y Parch. John Davies. Yn tud. 198—201 cymer y Parch. John Davies ef

  1. Diwygiwr, Awst 1890. op. cit.