i fyny, a rhydd iddo ffrewylliad ddi—drugaredd, ac ni atebodd yntau air byth. Castellanus ei hun a alwodd fy sylw at y ddadl hon pan oeddem ein dau yn eistedd a siarad ar Fryn Yetwen' Awst 10ed, 1880."[1]
Ni allasem roddi crynodeb gwell o'r ddadl hon na'r dyfyniad uchod o ysgrifau Clwydwenfro.
Y nesaf o bwys oedd â'r Parch. John Jones, Llangollen, neu Ryd-y-bont y pryd hwnnw. Yr oedd John Jones wedi cyhoeddi ei esboniad "Testament yr Ysgol Sul." Adolygodd Siôn Llethi' ef yn fanwl yn y 'Diwygiwr' am Tachwedd a Rhagfyr 1843.
"Daeth J. Jones allan yn Rhagfyr tud. 368 gan guro a lluchio yn enbyd i roddi taw ar unwaith ar Shôn Llethi, heb wybod pwy oedd, a chyhoeddu llythyrau ffafriol i'r gwaith oddiwrth y Parchn. S. Roberts, Llanbrynmair, D. Davies, Panteg, W. Davies, Ph.D., Ffrwdyfal a S. Bowen, Macclesfield. Mae ail-ysgrif gan J. Jones yn Ion. 1844, tud. 17 a 49 ym mha un y golcha ar Siôn Llethi yn ddoniol a dysgedig. Dywedai hefyd yn y Wern a Phenycae, Ceredigion wrth werthu ei Destament, Mae rhyw un o'r enw Shôn Llethi yn adolygu "Testament yr Ysgol Sabbothol" yn y Diwygiwr' yn curo arno a'i feio, nid yw ei nodiadau yn werth sylwi arnynt, rhyw ddyn annysgedig ac anwybodus yw ef mae yn amlwg wrth ei eiriau.' Gwyddai rhai o gyfeillion Siôn Llethi oedd yn bresennol pwy ydoedd, a darfu iddynt wenu yn lled eglur, ond tybiodd J. Jones mai gwenu o gymeradwyaeth oeddent, ac nid am y gwyddent gwell. Ar ddiwedd ei ysgrif yn rhifyn Chwefror 1844 addawa J. Jones ysgrif arall yn rhifyn
- ↑ Diwygiwr, Awst 1890. op. cit.