Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawrth—Y Cyhuddiadau yn erbyn Siôn Llethi'. Dywed y Gol. y byddai yn y nesaf. Tebyg ei bod yn y swyddfa ar y pryd. Os oedd ni ymddangosodd byth nac un ysgrif arall oddiwrth J. Jones gynt o Llangollen at Shôn Llethi'. Cafodd hynt pwy oedd Shôn, a galwodd ei ysgrif yn ôl. Côf gennyf glywed J. Jones yn pregethu yn Glandŵr rai blynyddau wedi y ddadl hon, eisteddai Castellanus dan y pulpud ar nos Sul. Dywedodd J. Jones wrth ddechrau pregethu,— Rhaid i mi fod yn ofalus beth ddywedaf yma heno, mae fy meistr dan y pulpud. Efe yw'r unig un erioed a'm gorchfygodd mewn dadl, ac nid oes arnaf gywilydd cydnabod hyny.' Clywais Castellanus yn siarad yn barchus iawn am dalentau J. Jones pan eisteddai ar 'Fryn Yetwen' yr adeg uchod, a dywedai fod llawer iawn o eiddigedd gweinidogion wrth wraidd y driniaeth. a dderbyniodd, er nad oedd J. Jones heb ei ffaeleddau. Dywedodd wrthyf i fab Jones, yr hwn a ddychwelodd o'r Amerig wedi marw ei dad roddi cofion caredig ci dad iddo, a'r unig un yr anfonodd J. Jones ei gofion diweddaf iddo o weinidogion Cymru."[1]

Yr ydym wedi dyfynnu o ysgrif Clwydwenfro ynglŷn â'r ddadl hon ar gyfrif ei bod yn cynnwys rhai ffeithiau diddorol ynglŷn a'r ddau ddadleuwr, ac yn ei thalfyrru, gan arbed inni'r baich o'i dilyn gymal a chymal yn y Wasg.

Ond y ddadl boethaf a hwyaf o'r dadleuon i gyd oedd honno â J.R. ar Bregethu Dychmygion".

Ymddangosodd y ddadl hon yn y Dysgedydd

  1. Diwygiwr, Awst 1890. op. cit.