Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwefror, Ebrill, Tachwedd 1850, a Ionor, Mai a Thachwedd 1851. Achlysurwyd y ddadl yn ddiau gan ddull J.R. o bregethu. Fel hyn y dywedir yng Nghofiant y Tri Brawd' gan Dr. E. Pan Jones wrth gyfeirio at ddadl J.R. â Siôn Gymro,—" Yr oedd J.R. ar ddechreu ei weinidogaeth yn boblogaidd anarferol. Nid poblogrwydd taranau a mellt, rhaiadrau a chreigiau, dyfnderoedd ac uchelderau, eithr poblogrwydd arbennig nad oedd i neb arall ran na chyfran ynddo—poblogrwydd blodau a gemau, goleuni a pheraroglau, parai i flodau dyfu gylch eich traed ar ganol llwybrau disathr yr anialwch, a thorai flwch o nard ar eich pen yn mhob oedfa heb yn wybod i chwi. Cyn bod o hono yn hir ar y maes daeth llawer allan i geisio efelychu ei arddull ond yn anffodus byddai rhai o honynt mor anghelfydd a dichwaeth fel y teimlid fod y dull hwn o bregethu yn bygwth tynu y swydd yn destyn gwawd, a' bernid gan lawer, yn neillduol y rhai a ystyrid yn dduwinyddion dysgedig ei bod yn bryd gosod terfyn arno. Syrthiodd y coelbren i wneud hyny ar 'Siôn Gymro'. Yr oedd efe yn ŵr o ddysg, yn fedrus i hollti geiriau, ac i chwilio allan eu hystyron o ieithoedd y cynfyd, a medrai rodio llwybrau eu cystrawen, y rhai na welodd llygad barcud erioed. Yn ei ysgrif gyntaf yn y ' Dysgedydd', Chwef. 1850 dywed mai yr hyn a olygai wrth ddychmygion oedd arfer brawddegau fel y rhai canlynol,—

1. "Y byddai yn well gan Dduw godi' mortgage ar yr haul na cholli pechadur."

2. Gosod Duw yn Bankrupt Corner Gazette Prydain."

3. Fod cloc uffern yn sefyll ddeuddeg o'r gloch."