4. "Fod Cyfiawnder Crist wedi cael ei fesur am dridiau a thair nos, ac wedi ei gael yn ddigon cyn ei ollwng o'r bedd."
13. "Galw saint ac angylion yn adar gwynion paradwys."
Gafaelodd J.R. yn y dychmygion hyn yn ei atebiad a dangosodd mewn modd hapus a meistrolgar mor llawn yw'r Beibl o farddoniaeth gan roddi rhesymau dros ddefnyddio cymariaethau barddonol. Wele rai o'i atebion wedi eu rhifnodi:—(1) "Dywed Duw, "Mi a'th hoffais, am hynny rhoddaf ddynion am danat." Dywed drachefn, "Trodd fy nghalon ynof." Nid yw y fath ddywediadau yn wirionedd mewn athroniaeth na duwinyddiaeth, ond y maent yn farddoniaeth. (2) Wrth sôn am dalu dyledion addoldai, dywedodd un y byddai enw yr Arglwydd yn 'Bankrupt Corner Gazette Prydain' os na thelid am y capel. Dywedodd Iesu,— "Bum yn ngharchar." (3) Meddylrych o waith Young yw cloc yn sefyll yn uffern ganol nos. (4) Un o gymhariaethau Christmas Evans oedd fod Cyfiawnder Crist yn cael ei fesur, ond ei bod wedi ei llurgynio gan ddwylaw anghelfydd fel nad oedd neb yn ei nabod. (5) Williams o'r Wern ddywedodd fod byllt digofaint Duw yn aros arno ef."[1] Dyna ddigon o enghreifftiau o'r modd deheuig a meistrolgar yr ymgymerai J.R. o'r ochor arall ag ateb cwynion 'Siôn Gymro', y rhai a braw ei fod wedi manwl astudio barddoniaeth y Beibl, a bod y cyfan ar ben ei fysedd, a'i fod hefyd yn fedrus dros ben i'w defnyddio.
- ↑ "Cofiant y Tri Brawd o Lanbrynmair a Chonwy," gan Pan Jones —Pregethu Dychmygion,' tud. 254-7.