Defnyddiodd Siôn Gymro rai o'r ymadroddion mwyaf gwawdus a ysgrifennodd erioed yn y ddadl hon. Cyhoeddodd yn ei atebiad ryw fath o 'Holwyddoreg' ddychmygol i wawdio'r syniadau barddonol hyn. Dywedai J.R., fel y sylwasom eisoes, y byddai y saint yn adar gwynion yn mharadwys ", a chawn 'Siôn Gymro' yn gwawdio'r ymadrodd mewn ffurf o emyn i'w ddefnyddio mewn cyfeillach grefyddol, neu ar yr aelwyd. Wele'r pennill,—
"Yn dderyn gwyn, yn dderyn brâf,
Fe'm gwneir yn wyn fel 'deryn haf.
Heb arnaf bluen ddu.
Yn pyncio fry yn nghanghau'r coed,
A'm haden dlos yn cuddio'm troed
Wel, dyma dderyn cu."
Wele enghraifft fyw arall o wawdiaith 'Siôn Gymro —y peth mwyaf deifiol a sgrifennodd yn ddiau yn y ddadl,—
"Yr oedd un o Ymerawdwyr Rhufain gan ei ddiffyg synwyr a'i falchder yn rhoi i'w geffyl geirch wedi eu goreuro. Gwaeth yw rhoi i ddyn us wedi ei oreuro. Pa faint bynnag o niwaid a wnaethai yr aur i gylla yr anifail, yr oedd y ceirch yn dda. Ond am ddyn crefyddol a orfodir i fyw ar ddychmygion ei weinidog ni cha efe ond us ac aur, ca ei dwyllo a'i newynu, a'i niweidio ar yr un waith."[1]
Parhaodd y ddadl o fis i fis am yn agos i ddwy flynedd, hyd nes y teimlodd cyfeillion y ddau ddadleuwr
- ↑ Dysgedydd, 1850.