ei bod yn bryd ei thynnu i ben. Clowyd y ddadl i fyny gan J. Griffiths, Tyddewi, yr hwn oedd gyfaill calon i'r dadleuwyr.
Dywed Dr. Pan Jones yn ei arwr—addoliaeth o J.R. ei bod yn amlwg mai efe oedd y trechaf o'r ddau, ond dywed Clwydwenfro o dan yr un teimlad tuag at Siôn Gymro' mai efe oedd y trechaf, er bod J.R. yn gweiddi Buddugoliaeth'.
Wrth adolygu'r ddadl heddiw gwelwn ddarfod ei dwyn ymlaen gan ddau o feddyliau mwyaf eu cyfnod, ac nad oedd fawr o wahaniaeth rhyngddynt, ond na fuont yn ddigon gofalus i egluro ystyr geiriau wrth gychwyn. Yr oedd J.R. lawn mor ofalus â Siôn Gymro' am chwaeth dda, goeth ac aruchel, ond bod yr olaf yn condemnio pethau dichwaeth, a J.R. yn canmol pethau barddonol a barddoniaeth fel cyfrwng i wisgo ac i gyfleu gwirionedd.
Bu dadl rhyngddo ac un a'i galwai ei hun yn "Amddiffynwr" yn y 'Diwygiwr' Awst 1844 hefyd, ac achlysur y ddadl honno oedd ysgrif gan John Davies ar Ysgrif Capelydd yr Ymneillduwyr yn amlygu ei foddhad fod y mesur wedi pasio ei drydydd darlleniad yn Nhy'r Cyffredin, a hefyd yn beio Golygydd yr Evangelical Magazine', Cymanfa Sir Gaerfyrddin, a'r Diwygiwr' am siarad a chefnogi deisebu yn erbyn y Mesur. Wedi i "Amddiffynwr" ddod allan yn ei ysgrif gyntaf, gan alw ysgrif John Davies yn ysgrif Sosinaidd, caeodd y Golygydd y ddadl i fyny cyn i'r olaf gael cyfle i ateb. Bu hefyd ysgarmes fach rhyngddo a rhai o 'Ysgrifenyddion yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig mewn canlyniad i lythyr byr o'i eiddo a ymddangosodd