Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan feddwl Duw ar gân yn bechadurus, ni chanfyddesid o hynny yno. Ond O'r gwahaniaeth rhwng Salmau Dafydd â chaniadau Dryden, rhwng drych— feddyliau gogoneddus y Sanctaidd Esaiah â gorcuon y rhan fwyaf o weithiau Pope ac eraill. Ie, y mae gogoniant gwaith Homer, Virgil a Milton yn diflannu yn y Sancteiddrwydd dysglaer sydd hyd yn oed yn y bennod gyntaf o Genesis."[1]

Gwybyddus i lawer erbyn hyn yw fod ei gyfrol o farddoniaeth a alwai yn 'Flores Poetici' yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac wrth fwrw golwg drosti gwelwn ei bod wedi ei hysgrifennu yn llawysgrif yr awdur ei hun, ac yn dwyn nodyn fel hyn,—

Original MSS of the Author, given to National Library of Wales by Mr. J. Davies Jones, Beulah, Cards. July 1933."

Yn ychwanegol at Flores Poetici' y mae'r un cymwynaswr wedi rhoddi nod-lyfr (note-book) o eiddo John Davies i'r Llyfrgell sydd yn cynnwys darnau o farddoniaeth, ac yn dwyn y dyddiad Ebrill 24ain, 1821. Nid yw'r llyfryn hwn yn cynnwys mwy na 17 o ddarnau bychain, ac eglur oddiwrth y dyddiad (1821) mai perthyn i dymor olaf yr ysgol yn Neuaddlwyd a dechrau ei dymor yn y Coleg yn y Drefnewydd yw'r mwyafrif ohonynt. Y mae'r teitlau sydd i'r caneuon yn ategu'r dyddiad, megis,—

(1) Meditations (in English).
(3) Boreu Haf.
(5) Scraps of Hebrew writing.
  1. Dyddlyfr Siôn Gymro. op. cit.