Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siôn Gymro.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dengys caneuon eraill ddarfod eu cyfansoddi pan oedd yr awdur yn y weinidogaeth, megis—

(66) Ar lan y Tâf.
(73) Claddwyd fi pan yn Llwynteg.
(74) To Mr. John Williams, Llwyndu.
(212) Lladrad yr Allweddau, etc.

Er dywedyd ohonom eisoes nad oes fawr ddim yn ein taro yn ei farddoniaeth (ac eithrio ambell gyfieithiad) yn fwy na dysg a diddordeb eang wedi eu gosod ar gân, eto rhydd i ni ambell gyffyrddiad tyner a thlws. Wele un o honynt yn nyddiau'r Coleg i afon Hafren,—

"Hafren, Hafren, afon mawredd,
Afon nerth a dŵr gogonedd,
Ar dy lan rhoer i mi gennad,
I fyfyrio a syllu arnad.

Pan y cyfyd Haul y borau,
Pan fachluda y prydnawnau
Ar dy lan gad i mi rodio,
A neb yn meiddio fy ngofidio.

Yn dy glir don pan symudi,
Ca' fy ngwedd ei hadlewyrchu,
Llwyd a gwan edrychaf arnad,
Er at bob dyn heb ddrwg fwriad.


Wele emyn o'i eiddo,——"Am gael mynd at Iesu."

Fry, fry mae'r Iesu'r ffyddlon frawd yn byw,
Fy rhan, fy Mhrynwr hefyd yw,
Bryd gwawria'r dydd 'r af atto Ef,
I orffwys yn Ei fynwes gu,
A moli fry ynghanol nef.