Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu diwrnod egsam ysgol Cwm Pennant yn ddiwrnod pwysig yn fy hanes. Fel y dywedais eisioes, yr oeddwn yn y bumed flwyddyn, a'r olaf, o'm prentisiad fel Pupil Teacher, ac ers tro wedi bod yn chwarae â'r syniad o fynd ymlaen fel athrawes. Yr oedd llawer o resymau o blaid ac yn erbyn hynny. Cawn fynd i'r Coleg, ac yr oeddwn yn hoff o blant, ond, buasai gennyf egsam galed pob blwyddyn cyn cyrraedd y Coleg. Nid oedd ryddid i wneud dim mewn dosbarth ond yn ôl rhaglen swyddogol. Gwaeth na'r cwbwl, dibynnai cymaint ar fympwy Inspector. Pan gychwynnais o'r Garn fore'r Egsam, nid oeddwn wedi penderfynu dim, ond gwnaeth Egsam ysgol Cwm Pennant, y diwrnod bythgofiadwy hwn, fy meddwl i fyny yn derfynol. Penderfynais nad oedd yn werth, o dan yr amgylchiadau, ddilyn ymlaen fel athrawes funud yn hwy. Ceisiodd John fy mherswadio trwy bob dull a modd, ond yr oeddwn fel mul Owen Williams y Siop, 'doedd dim symud arnaf. Bûm yn dyfalu lawer gwaith sut adroddiad a roddodd William Williams ar yr Egsam honno. Synnai'n fawr, mae'n siwr, pe bai wedi deall ei fod y diwrnod hwnnw wedi penderfynu llinell fy mywyd Bûm yn dyfalu fwy nag unwaith beth fuasai llinell fy mywyd pe bai diwrnod Egsam Ysgol Cwm Pennant wedi bod yn ddiwrnod o haul braf, a'r Inspector mewn tymer da ac yn llawn caredigrwydd tuag at athrawon yn gwneud eu gorau. Ys gwn i?

Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl i mi briodi a gadael y Garn, a'm dwy ferch wedi tyfu i fyny, aethom ein tair ar ymweliad â'r hen ardal un haf. Daeth fy mrawd William atom, ac yr oedd Hugh yno'n byw eisoes.

Penderfynwyd un diwrnod gerdded i Gwm Pennant ar hyd yr hen lwybr a gerddais i Ysgol Cwm Pennant. Dyma gychwyn selog. Wedi dringo allt y Garreg Gron ac yna mynd trwy'r ddau lidiart haearn, a pharatoi i droi am yr hen lwybr fel arfer, er fy syndod, nid oedd llwybr i'w weld. Er chwilio'n fanwl nid oedd cymaint ag olion yr hen lwybr ar gael. Sylwais ymhellach