RHAGAIR
Y DYDD o'r blaen cefais y profiad cyntaf o'r radio-lygad. Am ychydig funudau ar ôl i mi droi'r nob i gyfarwyddo'r trydan, arosodd y scrîn yn dywyll. Yn y man dechreuodd oleuo'n araf nes o'r diwedd daeth yn olau i gyd, a phob pwynt bychan yn y darlun yn sefyll allan yn glir.
Dyna'r ffordd y bu i'm cof weithio. Pan ddechreuais baratoi at ysgrifennu Brethyn Cartref a throi'r nob yn fy nghof, ni sylweddolais ar y cychwyn fel y byddai manylion o bob math yn ymddangos yng ngolau'r scrîn, o gornel pellaf a thywyllaf fy nghof.
Daeth i'r golwg lifeiriant o ddarluniau, o hanesion, o draddodiadau, o ddywediadau fu yn guddiedig ym mhen pellaf fy nghof am flynyddoedd. Nid oedd lle iddynt i gyd ym Mrethyn Cartref heb i'r cefndir lethu hanes y teulu. Ond, unwaith i mi droi'r nob, nid oedd, ac nid oes, modd ail-guddio'r manylion. Mae'n amlwg o ddarllen y llythyrau a gâf o bob rhan o'r byd fy mod wedi troi nob yng nghof llawer o'm cyfoedion, neu yng nghôf eu perthynasau. Mae'n amlwg hefyd fod diddordeb yn parhau o hyd mewn hanesion yr amser a fu, er maint y rhyfeddodau lliwgar a gawn yn yr oes wyddonol a chyffrous hon.
Hwyrach, rhyw ddydd a ddaw, y bydd i'n plant weld, ar droad rhyw nob neu'i gilydd, ddarluniau byw o'r hen oesoedd yn ogystal a darluniau o'r bywyd presennol. Yn y cyfamser nid oes modd cael gwybod am y gorffennol ond drwy hanes. Dyma fi, felly yn ceisio gwau pedwar-ar-ddeg clwt bychain yn un. Clwt y fan yma o Sir Fôn, clwt y fan draw o Sir Gaernarfon; clwt neu ddau o ddyffryn Conwy; pob clwt a'i liw a'i le gwahanol, ond y cwbl yn gwneud un siaced fraith.
ELIZABETH WILLIAMS.