Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhywbeth dyrus am dano yn rhywle, a chofiai y lle yn ogystal. 'Roedd ganddo gof fel encyclopaedia.

Yn rhyfedd iawn, er mai darllenwr oedd yn gyntaf ac yn olaf, cymerai ddiddordeb mawr mewn bocsio. Gallai enwi pob bocser mawr a rhoi ei hanes ac os byddai disgrifiad o focsing match ar y radio byddai Bob a'i glust wrth y set rhag colli gair.

'Roedd ei dŷ bach ym Mirmingham mor llawn o lyfrau fel mai prin y gallai symud yn ei ystafell wely, o dan y gwely, hyd y grisiau ac ar bob cadair. 'Doedd ryfedd iddo ddewis byw mewn tŷ yn hytrach nac mewn llety cysurus. Tŷ bychan oedd, ynghanol tai gweithwyr, a llawer o'r trigolion yn yr ardal yn anosbarthus, yn meddwi ac yn ymladd, a'r iaith yn ddifrifol. Nid amharai hyn ddim ar Bob. 'Roedd yn byw mewn byd dieithr iawn i'w gymdogion, byd tawel ynghanol ei lyfrau a'i freuddwydion. Ac er na roddodd erioed argraff ei fod yn ei feddwl ei hun yn well na'i gydweithwyr—ni ddaeth i'w ben erioed i goleddu'r fath syniad—eto edrychai ei gymdogion i fyny ato fel rhywun uwchlaw iddynt eu hunain. Dangosant eu parch ato drwy ei gyfarch bob amser fel "Mr. Williams"—peth dieithr iawn mewn ardal o'r fath.

Ni thalodd Bob erioed sylw i'w ddillad, ond cyn belled ac y byddai'n weddol drefnus. Credai fod llyfrau yn fwy pwysig i ddyn wario amser ac arian arnynt na dillad. Ond, ar un amser meddai ar dop côt ddu hardd—nid oedd debyg iddi yn yr ardal. Os byddai angladd neu briodas mewn teulu yn y gymdogaeth, curai rhywun ar ddrws Bob a gofynnai'n gwrtais: "Please Mr. Williams may we borrow your overcoat for the day"? Ni ddaeth i feddwl Bob erioed wrthod. Meddai ar galon fawr garedig, a bu'r dop côt mewn llawer priodas ac angladd. Cynorthwyodd Bob lawer ar ei gydweithwyr os byddent allan o waith—heb ofyn dime'n ôl. 'Doedd ryfedd iddo golli pob ceiniog o'i elw cyn gadael Birmingham.

Un haf daeth Bob o Firmingham atom i Lanrwst am wyliau. Digwyddai Hugh ddod hefyd o Lundain a chafodd y ddau