grwydro ar hyd eu hen gynefin a sgwrsio am yr hen amser gynt. 'Roedd Hugh yn wahanol iawn i Bob. Bu Hugh bob amser yn talu sylw i'w wisg, ac edrychai'n ddestlus iawn ac yn "well groomed" chwedl y Sais. Tybiai Hugh y dylai Bob dalu mwy o sylw i'w ymddangosiad—ond 'roedd Bob yn berffaith hapus. Gwisgai tsiêt-ffrynt gwyn wedi ei startsio i'w roi ar y crys. Cuddiai y tsiêt liaws o bechodau. Gellid ei roi ar grys gwlanen neu unrhyw fath o grys. Gwisgai Nhad tsiêt ar hyd y blynyddoedd. Cofiaf yn dda fel y deuai adre o'r chwarel bnawn Sadwrn. Ar ôl pryd o fwyd y peth cyntaf a wnai fyddai ymolchi a shafio a rhoi tsiêt a choler lân yn barod i fynd gyda Mam i'r dre.
Ond tsiêt gwahanol a wisgai Bob—tsiêt yn un â'r goler a byddai'n ofynol ei botymu ar hyd y ffrynt ac ni thrafferthai Bob i weld fod y botymau wedi eu cau yn iawn. Ar y tsiêt gwisgai dei fflat fel cledr llaw, wedi ei wneud yn barod yn y siop ac felly'n arbed y gwaith o wneud cwlwm taclus—llai o drafferth o lawer ym meddwl Bob. Edrychai'n ddigon twt ar y cychwyn ond gan nad oedd y tsiêt wedi ei botymu, gweithiai ei ffordd allan o'r wasgod a byddai golwg rhyfedd ar Bob, a'i tsiêt ar un ochr.
'Roedd Hugh am iddo roi'r tsiêt o'r neilltu a gwisgo coler ar ei grys, a thei. Er mwyn ei ddenu i wneud hyn aeth Hugh i'r dre i brynu coler a thei. Ond 'roedd Bob yn fwy dyn na'r un o'i frodyr a bu'n rhaid i Hugh fynd dair gwaith i'r siop cyn llwyddo i gael coler yn ddigon mawr i ffitio Bob. O'r diwedd caed coler ac aed ati i wisgo. Cymerai Bob arno brotestio—"byddi'n siwr o'm tagu cyn y diwedd", ond 'roedd wrth ei fodd yn gweld Hugh yn stwna o'i gwmpas. Pan lwyddodd Hugh gau'r goler a chlymu'r tei newydd galwodd ar fy ngŵr a minnau i roi ein barn. Druan ohono! 'Roedd y goler a'r tei yn daclus ddigon ond gwisgai Bob grys o liw khaki a brynnodd mewn stondin ail-law am wyth geiniog—crys glân a thaclus,